This blog post is bilingual, first in English then in Welsh. Mae’r blog hwn yn ddwyieithog, gan ymddangos yn Saesneg yn gyntaf, ac yna yn Gymraeg.
The idea of working in a way that’s accessible and inclusive by default has become commonplace in digital services. From the very start of delivery, we bake in approaches to design and development that consider all users, regardless of any challenges they may face. What many digital practitioners may be less used to doing though, is delivering a service bilingually by default.
With over 350,000 people speaking Welsh in their day-to-day lives, the UK government is committed to providing its online services in Welsh. And the Welsh Language (Wales) Measure 2011 mandates that in Wales the Welsh language be treated no less favourably than English, across physical and digital contexts. However, in my experience as a content designer, working on a range of government services, Welsh translation is often considered very late in the agile delivery process.
In the past, accessibility was often seen as an ‘add-on’. Or worse, a ‘nice-to-have’. Which invariably resulted in a worse service for all users. Or you’d have to make costly retroactive changes, right when there were a hundred other things to do to be live service-ready. Good digital delivery doesn't do this now, and it should be the same with bilinguality.
And it’s not just because of the technical challenges of being able to seamlessly toggle between languages. It’s also about how the nuances between languages can affect content and design decisions.
It’s why we took a bilingual approach from the very start of delivering a new data publishing platform for Wales.
"Nuances between languages can affect content and design decisions."
We’ve been partnering with the Welsh Government for over a year to redesign and rebuild their statistics service StatsWales, from the ground up.
In discovery, we spoke with different stakeholders who are responsible for sourcing, building and publishing statistical data on the platform. As well as with the diverse range of users actually accessing and using the data from the public-facing website. For all these user groups, we aimed to speak to as many Welsh speakers as possible.
The main insights from our research focused on a lack of consistency in terms of publisher experience, data quality and text-based metadata. From a bilingual perspective, these inconsistencies extended to how translations were handled in the system. Also, whilst the public-facing website was available in both languages, the publisher platform was only usable in English.
At the start of the alpha phase, our full-stack team held a workshop to look at the Welsh Language Commissioner’s bilingual technology toolkit. The toolkit details various requirements and recommendations that should be followed to “create a great experience for users in both Welsh and English”.
In our workshop, we went through each requirement and discussed how we would approach them. We then either created a dedicated ticket in our backlog or included the requirement as part of our general practice. Often that general practice boiled down to: never assume a language preference for users.
Going through this process also highlighted the value of having a Welsh translator available to the team throughout the project. We’ve been lucky to have the same translator support our team from discovery to delivery. It’s made a massive difference as she’s been able to build an understanding of the context and nuances of the service, and apply that knowledge to her translations.
Our design approach to the service has focused on simplifying journeys and limiting inconsistencies across published datasets. For example, we identified where free-text inputs could be replaced with more standardised, bilingual inputs, such as radio buttons. This helps reduce the amount of content needing to be translated every time a publisher creates a dataset. It also means that metadata across datasets is more consistent in both languages.
We’ve also produced bilingual guidance for publishers - for preparing data and using the platform. This was completely missing from the legacy service, meaning publishers were reliant on their own, differing desk notes. We used pair writing sessions with our translator, and with subject matter experts, to ensure the guidance was clear, understandable and used plain Welsh (Cymraeg clir) and plain English as much as possible.
From a technical perspective, we’ve taken an internationalisation approach to building the frontend of the service. All service content has been implemented as ‘i18n’ javascript, rather than hardcoded in Welsh and English. This much more robust approach has allowed us to easily iterate content and identify where translations are missing.
Continual testing and iterating is obviously a pivotal part of user-centred, agile delivery. All of our research screeners, invites, surveys and polls have been available bilingually to help us successfully recruit Welsh speakers. Through careful preparation with our translator, we’ve facilitated several bilingual research sessions. This has included moderated usability testing where participants spoke in Welsh and used the Welsh version of the service.
“By taking this bilingual approach from the start, we’ve been able to onboard users onto a service that can reliably switch between languages.”
By taking this bilingual approach from the start, we’ve been able to onboard users onto a service that can reliably switch between Welsh and English and back. Our approach also influenced how we’ve built certain aspects of the service.
When publishers upload their prepared data files, the system can recognise column headings regardless of whether they are in Welsh or English. Likewise, the service encourages publishers to enter any free-text metadata in their preferred language. Any translations needed of that content are then handled in a single task. In the previous system this translation process was piecemeal and prone to error, regardless of language preference.
For data consumers, we’ve made viewing and downloading the data truly bilingual. When viewing the legacy site, related links and downloaded data would only be in one language. But our research showed that many bilingual users will switch back and forth between languages, and want data in both. The new system allows users to easily download data in either or both languages, and aims to provide outwards links to both Welsh and English resources to all users.
When the beta service was assessed by the Centre for Digital Public Services, the benefits of our approach were clear to see. The assessment panel highlighted that “it was reassuring that the team understood the fluidity of language and designed with flexibility from the start. This is world-class design work!”
By considering the service bilingually by default, we’ve had confidence we’re building a service that will work for all users in Wales. But we still could have done more.
Whilst we’ve had a skilled Welsh translator available throughout the project, having a Welsh speaker embedded in the service team would have been even better. Ideally we would also have done trio writing if we could have. It’s not been possible due to the nature of how the service content has been produced, but we’d recommend doing it if you can.
Like all things agile, the bottom line is doing things early and often, and never making assumptions about what your user needs. Or what language they speak.
Mae’r syniad o weithio mewn ffordd sy’n hygyrch ac yn gynhwysol, yn ddiofyn, wedi dod yn rhywbeth cyffredin ym maes gwasanaethau digidol. O’r cychwyn cyntaf wrth ddarparu, byddwn yn ystyried dulliau dylunio a datblygu sy’n ystyried pob defnyddiwr, beth bynnag fo unrhyw heriau y byddant yn eu hwynebu efallai. Yr hyn y gallai nifer o ymarferwyr digidol fod yn llai cyfarwydd â gwneud, fodd bynnag, yw darparu gwasanaeth sy’n ddwyieithog yn ddiofyn.
O ystyried bod dros 350,000 o bobl yn siarad Cymraeg yn eu bywydau dydd i ddydd, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddarparu ei gwasanaethau ar-lein yn Gymraeg. Ac mae Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 yn gorchymyn na chaiff yr iaith Gymraeg ei thrin mewn ffordd lai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru, ar draws cyd-destunau ffisegol a digidol. Fodd bynnag, yn fy mhrofiad i fel dylunydd cynnwys, sy’n gweithio ar amrediad o wasanaethau’r llywodraeth, bydd cyfieithu i’r Gymraeg yn aml yn cael ei ystyried yn hwyr iawn yn y broses gyflawni ystwyth.
Yn y gorffennol, ystyriwyd hygyrchedd yn aml fel ‘ychwanegyn’. Neu’n waeth, rhywbeth ‘brawf i’w gael’. Yn ddieithriad, arferai hyn arwain at wasanaeth gwaeth i bob defnyddiwr. Neu byddai’n rhaid i chi wneud newidiadau ôl-weithredol costus, ar yr union adeg pan fyddai cannoedd o bethau eraill i’w gwneud er mwyn bod yn barod am wasanaeth byw. Nid yw darparu digidol da yn gwneud hyn nawr, a dylai fod yr un peth gyda dwyieithrwydd.
Ac nid yw hyn oherwydd yr heriau technegol o allu toglo yn ddi-dor rhwng ieithoedd yn unig. Mae hefyd am y ffordd y gall yr arlliwiau rhwng ieithoedd effeithio ar benderfyniadau dylunio a chynnwys.
Hwn fu ein rheswm dros fabwysiadu dull gweithredu dwyieithog o’r cychwyn cyntaf wrth ddarparu platfform cyhoeddi data newydd i Gymru.
"Gall arlliwiau rhwng ieithoedd effeithio ar benderfyniadau dylunio a chynnwys."
Rydym wedi partneru gyda Llywodraeth Cymru ers dros flwyddyn i ail-ddylunio ac ail-greu ei gwasanaeth ystadegau StatsCymru, o’r gwaelod i fyny.
Wrth ddarganfod, buom yn siarad gyda gwahanol randdeiliaid sy’n gyfrifol am sicrhau, creu a chyhoeddi data ystadegol ar y platfform. Yn ogystal â gydag amrediad amrywiol y defnyddwyr sy’n troi at ac sy’n defnyddio’r data ar y wefan gyhoeddus. Ar gyfer yr holl grwpiau defnyddwyr hyn, ein nod oedd siarad gyda chymaint o siaradwyr Cymraeg ag yr oedd modd.
Roedd y brif ddirnadaeth o’n gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ddiffyg cysondeb o ran profiad y cyhoeddwr, ansawdd y data a metadata sy’n seiliedig ar destun. O safbwynt dwyieithog, roedd yr anghysondebau hyn yn ymestyn i’r ffordd yr oedd cyfieithiadau yn cael eu trin yn y system. Hefyd, er bod y wefan gyhoeddus ar gael yn y ddwy iaith, dim ond yn Saesneg yr oedd modd defnyddio’r platfform i gyhoeddwyr.
Ar ddechrau’r cyfnod alffa, cynhaliodd ein tîm stac cyflawn weithdy i ystyried pecyn cymorth technoleg dwyieithog Comisiynydd y Gymraeg. Mae’r pecyn cymorth yn nodi manylion gofynion ac argymhellion amrywiol y dylid eu dilyn er mwyn “creu profiad gwych i ddefnyddwyr yn y Gymraeg a’r Saesneg”.
Yn ein gweithdy, ystyriwyd pob gofyniad a thrafodom sut y byddem yn mynd i’r afael â nhw. Yna, aethom ati i greu tocyn penodedig yn ein gwaith i’w gwblhau neu gynnwys y gofyniad fel rhan o’n harfer cyffredinol. Yn aml, sylwedd yr arfer cyffredinol hwnnw fyddai: ni ddylech fyth dybio beth fydd dewis iaith defnyddwyr.
Roedd mynd trwy’r broses hon wedi amlygu gwerth cael cyfieithydd Cymraeg ar gael i’r tîm trwy gydol y prosiect hefyd. Rydym wedi bod yn ffodus i gael cymorth yr un cyfieithydd ar gyfer ein tîm, o’r cyfnod darganfod i’r cyfnod darparu. Mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol gan ei bod hi wedi gallu meithrin dealltwriaeth o gyd-destun ac arlliwiau’r gwasanaeth, gan ddefnyddio’r wybodaeth honno yn ei chyfieithiadau.
Mae ein dull dylunio ar gyfer y gwasanaeth wedi canolbwyntio ar symleiddio teithiau a chyfyngu ar anghysondebau ar draws setiau data a gyhoeddir. Er enghraifft, nodom lle y byddai modd disodli mewnbynnau testun rhydd gyda mewnbynnau dwyieithog, mwy safonol, megis botymau radio. Mae hyn yn helpu i leihau cyfanswm y cynnwys y mae angen ei gyfieithu bob tro y bydd cyhoeddwr yn creu set ddata. Mae hefyd yn golygu bod metadata ar draws setiau data yn fwy cyson yn y ddwy iaith.
Rydym hefyd wedi paratoi canllawiau dwyieithog i gyhoeddwyr – ar gyfer paratoi data a defnyddio’r platfform. Roedd hyn ar goll yn llwyr o’r gwasanaeth etifeddol, ac roedd hyn yn golygu bod cyhoeddwyr yn ddibynnol ar eu nodiadau desg gwahanol eu hunain. Defnyddiom sesiynau ysgrifennu mewn pâr gyda’n cyfieithydd ac arbenigwyr am y pwnc dan sylw er mwyn sicrhau bod y canllawiau yn glir, yn ddealladwy ac yn defnyddio Cymraeg clir a Saesneg clir gymaint ag y bo modd.
O bersbectif technegol, rydym wedi mabwysiadu dull rhyngwladoli er mwyn creu pen blaen y gwasanaeth. Gweithredwyd holl gynnwys y gwasanaeth fel ‘i18n’ javascript, yn hytrach nag ar ffurf codio caled yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r dull llawer mwy cadarn hwn wedi caniatáu i ni ailadrodd cynnwys yn hawdd a nodi lle y mae cyfieithiadau ar goll.
Wrth gwrs, mae profi ac ailadrodd yn barhaus yn rhan allweddol o ddarpariaeth ystwyth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae ein holl sgrinwyr ymchwil, ein gwahoddiadau, ein harolygon a’n polau wedi bod ar gael yn ddwyieithog er mwyn ein helpu i recriwtio siaradwyr Cymraeg yn llwyddiannus. Trwy gyfrwng gwaith paratoi gofalus gyda’n cyfieithydd, rydym wedi hwyluso sawl sesiwn ymchwil ddwyieithog. Mae hyn wedi cynnwys gweithgarwch profi defnyddioldeb wedi’i gymedroli, lle y bu cyfranogwyr yn siarad Cymraeg ac yn defnyddio fersiwn Gymraeg y gwasanaeth.
"Trwy fabwysiadu’r dull dwyieithog hwn o’r cychwyn, rydym wedi gallu tywys defnyddwyr i wasanaeth sy’n gallu newid rhwng ieithoedd mewn ffordd ddibynadwy."
Trwy fabwysiadu’r dull dwyieithog hwn o’r cychwyn, rydym wedi gallu tywys ddefnyddwyr i wasanaeth sy’n gallu newid rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn ôl, mewn ffordd ddibynadwy. Mae ein dull wedi dylanwadu ar y ffordd yr ydym wedi creu agweddau penodol ar y gwasanaeth hefyd.
Pan fydd cyhoeddwyr yn lanlwytho eu ffeiliau data wedi’u paratoi, gall y system adnabod penawdau colofnau os ydynt yn Gymraeg neu yn Saesneg. Yn yr un modd, mae’r gwasanaeth yn annog cyhoeddwyr i nodi unrhyw fetadata testun rhydd yn yr iaith y maent yn ei ffafrio. Yna, caiff unrhyw gyfieithiadau angenrheidiol o’r cynnwys hwnnw eu trin mewn un tasg. Yn y system flaenorol, roedd y broses gyfieithu hon yn dameidiog ac fe allai ddioddef camgymeriadau, waeth beth fo’r iaith a ffafriwyd.
I ddefnyddwyr data, rydym wedi gwneud y broses o edrych ar a lawrlwytho’r data yn hollol ddwyieithog. Wrth edrych ar y wefan etifeddol, dim ond mewn un iaith y byddai’r dolenni cysylltiedig a’r data a lawrlwythwyd ar gael. Ond roedd ein hymchwil yn dangos bod nifer o ddefnyddwyr dwyieithog yn newid yn ôl ac ymlaen rhwng ieithoedd, a’u bod yn dymuno cael data yn y ddwy iaith. Mae’r system newydd yn caniatáu i ddefnyddwyr lawrlwytho data yn hawdd yn y naill iaith neu’r llall neu’r ddwy iaith, a’i nod yw cynnig dolenni sy’n mynd allan i adnoddau Cymraeg a Saesneg i bob defnyddiwr.
Pan aseswyd y gwasanaeth beta gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, roedd manteision ein dull gweithredu yn glir. Amlygodd y panel asesu y ffaith “ei bod yn galonogol bod y tîm yn deall llifedd iaith a’u bod wedi cynllunio gydag hyblygrwydd o’r cychwyn. Mae hwn yn waith dylunio o safon byd!”
Wrth ystyried y gwasanaeth mewn ffordd ddwyieithog fel dewis diofyn, rydym wedi cael yr hyder ein bod yn creu gwasanaeth a fydd yn gweithio i bob defnyddiwr yng Nghymru. Ond gallem fod wedi gwneud mwy o hyd.
Er ein bod wedi cael cyfieithydd Cymraeg medrus a fu ar gael trwy gydol y prosiect, byddai cael siaradwr Cymraeg yn rhan o dîm y gwasanaeth wedi bod yn well fyth. Yn ddelfrydol, byddem hefyd wedi gwneud ysgrifennu trio pe baem wedi gallu. Ni fu hyn yn bosibl oherwydd natur y ffordd yr oedd cynnwys y gwasanaeth wedi cael ei baratoi, ond byddem yn argymell gwneud hynny os y gallwch.
Fel popeth ystwyth, y peth sylfaenol yw gwneud pethau yn gynnar ac yn aml, a pheidio ffurfio tybiaethau fyth am yr hyn y mae ei angen ar eich defnyddiwr. Neu pa iaith y maent yn ei siarad.
Whether you’re ready to start your project now or you just want to talk things through, we’d love to hear from you.